The Glee Project | |
---|---|
Logo'r Glee Project | |
Fformat | Sioe dalent realiti rhyngweithiol |
Crëwyd gan | Ryan Murphy |
Cyflwynwyd gan | Robert Ulrich |
Beirniaid | Ryan Murphy Robert Ulrich Zach Woodlee Nikki Anders Ian Brennan |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 1 |
Nifer penodau | 10 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd gweithredol |
Michael Davies Shauna Minoprio Ryan Murphy Dante Di Loreto |
Cynhyrchydd | Ryan Murphy |
Lleoliad(au) | Los Angeles |
Amser rhedeg | 44 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Oxygen |
Darllediad gwreiddiol | 12 Mehefin 2011 – presennol |
Statws | Ymlaen |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Cyfres deledu realiti Americanaidd a gynhyrchir gan Oxygen yw The Glee Project, sydd a'i fformat ar ffurf clyweliad ar gyfer cyfres deledu FOX, Glee. Bwriad y cynyrchyddion oedd i'r gyfres gael ei darlledu gyntaf ym mis Mai 2011 hwyr, ond gwnaed hynny ar 12 Mehefin 2011. Yng Nghanada, darlledwyd y gyfres ar sianel Slice ar 26 Mehefin 2011 ac yn y Deyrnas Unedig ar Sky One ar 14 Mehefin 2011, gyda darllediad dwy awr estynedig, lle dangoswyd y broses clyweld o'r Prif 12 yn yr awr gyntaf.
Mae cynhyrchwyr gweithredol Glee, Ryan Murphy a Dante Di Loreto, hefyd yn gynhyrchwyr gweithredol ar gyfer The Glee Project. Mae cynhyrchydd castio Glee', Robert Ulrich, hefyd yn gynhyrchydd castio ar gyfer y prosiect.[1][2]
Enillodd Damian McGinty a Samuel Larsen y gyfres gyntaf. Daeth Lindsay Pearce ac Alex Newell yn ail, a byddent yn serennu mewn dwy bennod o Glee. Enillodd Cameron Mitchell y gystadleuaeth "cefnogwr mwyaf hoffus" a'r wobr o $10,000 (tua £6,300) ar ôl iddo roi'r ffidl yn y to yn ystod pennod 7.[3]